Neidio i’r cynnwys
Prisiau

Prisiau clir, wedi’u cytuno cyn dechrau

Mae pob gwefan yn cael pris sefydlog cyn i unrhyw waith ddechrau. Dim codi fesul awr, dim syrpreisys.

Adeiladu’ch gwefan

  • Cael eich CanfodGet Found

    £495

    Y wefan gyntaf iawn i unig fasnachwr: un dudalen glir sy’n eich helpu i gael eich canfod ac yn gwneud i’r ffôn ganu.

  • Y mwyaf poblogaidd

    Cael YmholiadauGet Enquiries

    £895

    Gwefan gyflawn, hyd at bum tudalen, sy’n magu ymddiriedaeth ac yn troi ymwelwyr yn ymholiadau.

  • Dechrau GwerthuGet Selling

    £1,495

    Cymryd archebion ar-lein: bwydlen, system archebu, neu siop fach o hyd at tua 30 o gynhyrchion.

  • Siop Ar-lein LawnFull online store

    o£2,495

    Catalog llawn gyda meintiau, stoc a chludiant, wedi’i adeiladu i dyfu gyda’ch busnes.

  • PwrpasolBespoke

    Pris pwrpasol

    Unrhyw beth mwy neu anarferol: meddalwedd wedi’i chreu i chi, nid templed.

Cymraeg, Saesneg, neu’r ddwy

Mae pob pris uchod am wefan mewn un iaith: Cymraeg neu Saesneg, chi sy’n dewis.

Mae fersiwn yn yr iaith arall yn £300 yn ychwanegol, wedi’i hysgrifennu gen i, nid gan beiriant, gyda botwm newid iaith ar bob tudalen.

Talu

Talwch hanner i archebu’ch lle a hanner pan fydd y wefan yn barod i fynd yn fyw (tri thaliad ar wefannau mwy), neu wasgaru’r cyfan dros 12 mis heb gost ychwanegol, neu dros 24 mis am 10% yn fwy. Does dim i’w dalu nes i chi dderbyn pris.

Mae pob gwefan yn dod gyda’i chynllun gofal am o leiaf y 12 mis cyntaf ar ôl mynd yn fyw, fel ei bod hi’n cael ei chynnal a’i diogelu o’r diwrnod cyntaf. Ar ôl hynny, mae’n fis i fis.

Gofalu am eich gwefan

Un ffi fisol sy’n cadw’ch gwefan ar-lein, yn ddiogel ac yn gyfoes. Talwch am flwyddyn ymlaen llaw ac mae dau fis am ddim.

  • Cynnal(Hosting)Eich gwefan ar-lein ac yn gyflym, i hyd at 10,000 o ymwelwyr y mis, a’r clo diogelwch yn ddilys. Dim byd arall: newidiadau a help am £55 yr awr.£12 y mis
  • Hanfodol(Essential)Popeth sydd yn Cynnal, wedi’i wirio ddydd a nos, copi wrth gefn bob wythnos, diweddariadau diogelwch, ac e-bost misol am eich ymwelwyr a’ch safle ar Google.£25 y mis
  • Twf(Growth)Popeth sydd yn Hanfodol, i hyd at 50,000 o ymwelwyr, copi wrth gefn bob dydd, 2 newid y mis wedi’u gwneud o fewn 48 awr, a llygad ar Google. Ateb y diwrnod gwaith nesaf.£39 y mis
  • Ehangu(Scale)Popeth sydd yn Twf, i hyd at 100,000 o ymwelwyr, 3 newid y mis erbyn y diwrnod gwaith nesaf, a gwiriad Google bob mis. Ateb yr un diwrnod gwaith.£69 y mis
  • Perfformiad(Performance)Popeth sydd yn Ehangu, i hyd at 250,000 o ymwelwyr, 4 newid y mis yr un diwrnod, ac archwiliad Google manwl bob chwarter. Ar frig y ciw, gyda fy rhif uniongyrchol.£119 y mis

Eisiau amcangyfrif manwl ar gyfer eich gwefan chi? Mae’r gyfrifiannell brisiau (yn Saesneg) yn rhoi pris i chi mewn munud

Ddim yn siŵr beth sydd ei angen arnoch chi?

Does dim rhaid i chi wybod. Dywedwch wrtha i am eich busnes a bydda i’n dylunio’ch tudalen hafan newydd am ddim, neu’n dweud yn onest beth fyddai’n helpu.