Dylunio gwefannau yn ne Cymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg
Rhys ydw i, dylunydd a datblygwr gwefannau yng Nghaerffili. Cymraeg yw fy iaith gyntaf, a fi yw Studio RR: un person sy’n dylunio, yn ysgrifennu, yn adeiladu ac yn gofalu am eich gwefan.
Dwi’n gwneud gwefannau i fusnesau bach ar draws de Cymru, yn Gymraeg, yn Saesneg neu yn y ddwy iaith. Rydych chi’n delio â fi o’r sgwrs gyntaf i’r diwrnod mae’r wefan yn mynd yn fyw, a wedyn.

WYDDFA, siop ar-lein ddwyieithog o Eryri. Gweld sut y gwnes i hi (yn Saesneg)
Pam gwefan ddwyieithog?
Pawb yn eu hiaith eu hunain
Mae rhai o’ch cwsmeriaid yn byw eu bywydau yn Gymraeg, ac eraill ddim. Gyda gwefan ddwyieithog, mae pawb yn cael darllen amdanoch chi yn yr iaith sy’n naturiol iddyn nhw.
Dangos bod y Gymraeg yn bwysig i chi
Mae gwefan sy’n cynnig Cymraeg go iawn, nid ychydig eiriau ar y dudalen gyntaf, yn dweud rhywbeth am eich busnes cyn i neb godi’r ffôn.
Cael eich canfod yn y ddwy iaith
Mae tudalennau Cymraeg yn rhoi cyfle i chi ymddangos pan fydd rhywun yn chwilio yn Gymraeg, ac mae’r tudalennau Saesneg yn gwneud yr un peth yn Saesneg.
Sut dwi’n adeiladu gwefan ddwyieithog
- Cymraeg yn gyntaf, Saesneg yn gyntaf, neu’r ddwy ochr yn ochr: chi sy’n dewis.
- Botwm CY / EN ar bob tudalen, er mwyn i bobl newid iaith pryd bynnag maen nhw eisiau.
- Tagiau hreflang, fel bod Google yn gwybod bod gan bob tudalen fersiwn yn yr iaith arall, ac yn dangos yr un iawn i bob ymwelydd.
- Y Gymraeg wedi’i hysgrifennu gen i, siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, treigladau a’r cyfan. Dim cyfieithu peiriant.
- Porth cleientiaid yn Gymraeg hefyd: gweld sut mae’ch gwefan yn gwneud, anfon neges ata i, a thalu.
Gwaith dwyieithog
A’r wefan hon: mae studiorr.co.uk yn Gymraeg ac yn Saesneg, gyda botwm newid iaith ar y brig.
Faint mae’n ei gostio
Un pris misol, heb ddim i’w dalu ymlaen llaw. Mae gwefan yn cael ei phrisio mewn un iaith, Cymraeg neu Saesneg, ac mae fersiwn yn yr iaith arall yn £300 yn ychwanegol.
- Un dudalenUn dudalen glir i unig fasnachwr neu grefftwr£39/mis
- Hyd at 5 tudalenLle i ddangos y gwaith, gyda ffurflen ymholiadau£59/mis
- Fersiwn yn yr iaith arallEich gwefan yn Saesneg hefyd, neu’n Gymraeg hefyd, unwaith+£300
- Siopau ac archebionPris sefydlog ar ôl sgwrso £1,495
Mae’r parth, y cynnal, y gofal a newid bach bob mis i gyd wedi’u cynnwys. Dim TAW i’w ychwanegu. Mae gwefan un dudalen fel arfer yn fyw mewn 2 i 3 diwrnod, a gwefan fwy, fel siop ar-lein, mewn hyd at tua pythefnos.
Gweld pob prisBle dwi’n gweithio
Dwi yng Nghaerffili, a dwi’n hapus i ddod atoch chi os ydych chi’n agos, neu i siarad dros WhatsApp, y ffôn neu alwad fideo os nad ydych chi.
Cwestiynau
Oes rhaid i fy ngwefan fod yn y ddwy iaith?
Ydych chi’n cyfieithu fy ngwefan Saesneg bresennol?
Ydych chi’n defnyddio cyfieithu peiriant?
Ydy’r porth cleientiaid yn Gymraeg?
Ydych chi’n gweithio y tu allan i dde Cymru?
Hoffech chi weld eich gwefan newydd yn gyntaf?
Dywedwch wrtha i am eich busnes a bydda i’n dylunio’ch tudalen hafan newydd gyda’ch enw, eich lluniau a’ch geiriau chi, o fewn un diwrnod gwaith. Am ddim, heb ymrwymiad.